Housing Tai U.N. Office for the Coordination of Humanitarian Affairs stated that Israel destroyed 590 Palestinian buildings in the West Bank, including East Jerusalem in 2014 displacing 1,177 people. In January 2015 Israel destroyed 77 Palestinian buildings in the West Bank leaving 110 people, roughly half of whom were children, homeless in the cold of winter. U.N Official James W. Rawley argues such forced evictions and demolitions violate international law and created unnecessary suffering and tension. Datganodd Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydlynu Materion Dyngarol fod Israel wedi dinistrio 590 o adeiladau Palestinaidd yn y Lan Orllewinol, yn cynnwys Dwyrain Jerwsalem yn 2014 gan ddadleoli 1,177 o bobl. Ym mis Ionawr 2015 dinistriodd Israel 77 o adeiladau Palestinaidd yn y Lan Orllewinol gan adael 110 o bobl, yr oedd tua hanner ohonynt yn blant, yn ddigartref yng nghanol y gaeaf oer. Mae Swyddog y Cenhedloedd Unedig James W. Rawley yn dadlau bod y fath achosion gorfodol o droi pobl allan a dymchwel adeiladau yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol ac yn creu dioddefaint a thensiwn diangen. West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
People Pobl Estimated Palestinian population in 2013 = West Bank 2.72 million, Gaza 1.7 million Poverty rate: 25% Unemployment 24% Illegal under International Law 580,000 Israelis occupy 123 settlements authorised by Israel and about 100 unauthorised outposts in the West Bank and 12 major neighbourhoods in East Jerusalem Poblogaeth amcangyfrifedig Palestina yn 2013 = Y Lan Orllewinol 2.72 miliwn, Gaza 1.7 miliwn Cyfradd tlodi: 25% Diweithdra 24% Anghyfreithlon o dan Gyfraith Ryngwladol 580,000 o Israeliaid yn meddiannu 123 o anheddau a awdurdodir gan Israel a thua 100 o ragfintai heb eu hawdurdodi yn y Lan Orllewinol a 12 prif gymdogaeth yn Nwyrain Jerusalem See Gweler “The World Factbook ” on line source and Palestinian Central Bureau of Statistics West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
Land Tir The maps above show how Palestinian lands are being diminished. Interim Oslo Agreement 1995 divided West Bank:- Area C: Approx. 59% of land under full Israeli military control Area B: Rural Centres Area A: Major Urban Centres with scarce development land A &B fragmented into enclaves with movement restrictions between them East Jerusalem, prior to 1967 under Palestinian control, not classified and status not resolved Mae’r mapiau uchod yn dangos sut mae tiroedd Palestina yn mynd yn llai. Rhannodd Cytundeb Interim Oslo 1995 y Lan Orllewinol:- Ardal C: Tua 59% o dir o dan reolaeth filwrol lawn Israelaidd Ardal B: Canolfannau Gwledig Ardal A: Prif Ganolfannau Trefol â thir datblygu prin A &B wedi’u rhannu yn gilfachau gyda chyfyngiadau symud rhyngddynt Dwyrain Jerwsalem, cyn 1967 o dan reolaeth Palestina, heb ei ddosbarthu a dim penderfyniad ynghylch statws See Gweler :World Bank Report on West Bank & Gaza – The Economic Effect of Restricted Access to Land in the West Bank. West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
WATER DŴR Of West Bank water aquifers, Israel uses 73%, Palestinians 17% and illegal Israeli settlers 10% In 1982 the Israeli Ministry of Defence sold the West Bank’s water infra -structure to the Israeli company Mekorot for one shekel. Palestinians must buy over half their water from Mekorot often at a higher price than nearby settlers. Israel does not allow new Palestinian wells, has confiscated many for Israeli use and sets quotas on how much Palestinians can draw from existing wells. The Gaza Strip relies predominantly on wells increasingly infiltrated by sea water such that UN scientists estimate that Gaza will have no drinkable water within fifteen years O ran dyfrhaenau dŵr y Lan Orllewinol, mae Israel yn defnyddio 73%, mae Palestiniaid yn defnyddio 17% ac mae ymsefydlwyr Israelaidd anghyfreithlon yn defnyddio 10% Ym 1982 gwerthodd Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel is-strwythur dŵr y Lan Orllewinol i’r cwmni Israelaidd Mekorot am un shekel. Mae’n rhaid i Balestiniaid brynu dros hanner eu dŵr oddi wrth Mekorot yn aml am bris uwch nag ymsefydlwyr cyfagos. Nid yw Israel yn caniatáu ffynhonnau Palestinaidd newydd, maent wedi atafaelu llawer at ddefnydd Israeliaid ac yn gosod cwotâu ar faint o ddŵr y gall Palestiniaid ei dynnu o ffynhonnau sy’n bodoli eisoes. Mae Llain Gaza yn dibynnu’n bennaf ar ffynhonnau sy’n cael eu trwytho’n gynyddol gan ddŵr y môr i’r fath raddau fel bod gwyddonwyr y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif na fydd gan Gaza unrhyw ddŵr yfed o fewn pymtheg mlynedd. See Palestinian Monitor- Factsheet 2012 Gweler Palestinian Monitor-Taflen Ffeithiau 2012 West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
Community to Community Cymuned i Gymuned What are friendship/twinning links? Linking with the community in Rummanah means holding out the hand of friendship, across the cultural and linguistic divide, to learn about the different lives of people in Palestine. Although we will raise money to deliver small community projects, by far the biggest support that the people of Rummanah seek is our friendship and us raising awareness amongst the people of West Wales of the impact of Israeli oppression. If you become a supporter we hope that you will try to come to two or three fund raising activities a year, and help to raise awareness of Palestine by sharing with your family and friends what you know about life in Rummanah. Beth yw cysylltiadau cyfeillgarwch/gefeillio? Mae cysylltu â’r gymuned yn Rummanah yn golygu estyn llaw cyfeillgarwch, ar draws y rhaniad diwylliannol ac ieithyddol, i ddysgu am fywydau gwahanol bobl ym Mhalestina. Er y byddwn yn codi arian i ddarparu prosiectau cymunedol bach, y cymorth mwyaf y mae pobl Rummanah am ei gael heb os ac oni bai yw ein cyfeillgarwch ac i ni godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Gorllewin Cymru o effaith y gorthrwm yn Israel. Os byddwch chi’n dod yn gefnogwr gobeithiwn y byddwch yn ceisio dod i ddau neu dri gweithgaredd codi arian y flwyddyn, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o Balestina drwy rannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yr hyn yr ydych yn ei wybod am fywyd yn Rummanah. West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
Rummanah Rummanah A friendship link has been formed by West Wales Friends of Palestine with people in the villages of Rummanah, Taybe, Anin and Salim in the north of the West bank These villages are on the Green Line, in a farming area, near to Israel in Area C. They are allowed access to their lands and family on the other side of the Fence, for only one day a year. Living in an Israeli Firing Zone keeps people awake at night. The villagers often find unexploded munitions on the ground, raising concerns for their children's safety. The people of Rummanah and their communities have expressed a wish to get to know people in Wales and learn more about our lives and culture. Ffurfiwyd cyswllt cyfeillgarwch gan Gyfeillion Palestina Gorllewin Cymru â phobl ym mhentrefi Rummanah, Taybe, Anin a Salim yng ngogledd y Lan Orllewinol. Mae’r pentrefi hyn ar y Llinell Werdd, mewn ardal ffermio, ger Israel yn Ardal C. Caniateir mynediad iddynt i’w tiroedd a’u teulu ar ochr arall y Ffens, am un diwrnod yn unig y flwyddyn. Mae byw mewn Parth Tanio Israelaidd yn cadw pobl yn effro yn y nos. Mae’r pentrefwyr yn aml yn canfod arfau rhyfel heb ffrwydro ar y ddaear, sy’n gwneud iddynt boeni’n arw am ddiogelwch eu plant. Mae’r bobl o Rummanah a’u cymunedau wedi mynegi dymuniad i ddod i adnabod pobl yng Nghymru a dysgu mwy am ein bywydau a’n diwylliant. West Wales Friends of Palestine, August 2015 Cyfeillion Palestina Gorllewin Cymru, Awst 2015 www.wwfop.com
Recommend
More recommend